header1

logo


English English

Cymraeg Cymraeg



Linciau Defnyddiol:

GOC GOC Cenedlaethol

GOCSW GOC De Cymru



Clwb Awyr Agored Hoyw Grŵp Gogledd Cymru (GOC)

Mae Cangen Gogledd Cymru o'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn rhan o fudiad sy'n bodoli dros Brydain i gyd. Mae tua 1,000 o aelodau. Er mai prif amcan y Clwb yw cerdded, ceir grwpiau arbenigol o fewn y Clwb dringo, canŵio, seiclo, ogofa a gweithgareddau arbennig eraill. Edrychwch ar y wefan genedlaethol http://www.goc.org.uk

Yma yng ngogledd Cymru trefnir tua 20 taith gerdded bob blwyddyn sy'n amrywio o fod yn rai hawdd i rai anodd ac yn wir sgrialu. Mae rhywbeth sy'n addas i bawb yn ein rhaglen. Yr unig beth sydd arnoch ei angen yw sgidiau cerdded, dillad pwrpasol ar gyfer rhagolygon y tywydd, a brechdanau!

Mae'r nifer sy'n dod ar daith yn amrywio o tua 6 i gymaint â 40. Mae nifer o ferched yn aelodau ac mae gennym gysylltwraig. Ar gyfartaledd mae'r aelodau rhwng 30 a 50 oed ond mae hyn yn newid. Rydym yn trefnu nosweithiau mewn tafarn a chiniawa er mwyn i'r aelodau ddod i nabod ei gilydd ar lefel gymdeithasol.

Mae croeso i chi ddod ar unrhyw un o'r teithiau i weld os y'ch yn gyfforddus yn y grŵp. Os ymunwch fe dderbyniwch gylchgrawn yn fisol gyda'r manylion am bob taith dros Brydain oll.